Logo Prifysgol Cymru, Aberystwyth Logo'r Gwasanaethau Gwybodaeth Ymlaen i'r prif gynnwys
 
Cynhaliwyd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth diweddarwyd ar

Ydw i'n gallu chwarae gemau ar y we yn y Neuaddau?


Mae rhwydweithiau PA a JANET UK wedi eu cynllunio ar gyfer defnydd academaidd ac nid ydynt yn ceisio cynnig y rhychwant llawn o wasanaethau anacademaidd a gynigir gan Gyflenwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd masnachol. Nid oes yr adnoddau gan y Gwasanaethau Gwybodaeth i gynnal defnydd anacademaidd eang.

  • Caniateir rhywfaint o ddefnydd anacademaidd lle NAD YDYW:
    • yn amharu gyda’r lled band sydd ar gael i ddefnyddwyr academaidd
    • mewn unrhyw ffordd yn peryglu diogelwch rhwydwaith y Brifysgol
    • torri hawlfraint na chyfraith y DU e.e. rhannu ffeiliau ffilmiau, cerddoriaeth ayb..
    • amharu ar amser staff y Gwasanaethau Gwybodaeth

    Gallwch wneud cais am dwll ym mur tân y Brifysgol er mwyn galluogi mynediad i wefannau penodol at ddefnydd academaidd neu chwarae gem ar-lein. Fodd bynnag mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cadw’r hawl i wrthod y cais neu gau’r twll ar unrhyw adeg.

    Gallwch wneud y ceisiadau hyn trwy gyfrwng tudalen Gosodiadau’r Mur Tân

    Os gwelwch yn dda, darllenwch y dudalen yn ofalus fel eich bod yn deall sut i wneud y cais a beth a ganiateir neu beth sy’n cael ei wahardd.

    Dylech fod yn ymwybodol bod holl ddefnyddwyr rhwydwaith PA yn rhwym wrth Reoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth bob amser


  • Montage of Information Services related images