Logo Prifysgol Cymru, Aberystwyth Logo'r Gwasanaethau Gwybodaeth Ymlaen i'r prif gynnwys
 
Cynhaliwyd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth diweddarwyd ar

Sut mae cynnwys penynnau llawn wrth anfon e-bost ymlaen?


Y pennyn yw’r rhan o’r e-bost sy’n rhoi manylion am y llwybr y cymerodd yr e-bost i’ch cyrraedd chi.

Mae’r cyfarwyddiadau ar gyfer cynnwys y pennyn mewn e-bost a anfonir ymlaen yn amrywio yn ôl y triniwr e-bost yr ydych yn ei ddefnyddio:


Webmail

  1. Wedi agor yr ebost yn Webmail, cliciwch ar y " View Full Header " yn " Options ". Bydd hwn yn arddangos tudalen newydd yn cynnwys gwybodaeth am y pennawd
  2. Gan ddefnyddio'r llygoden, dewiswch ac amlygwch y wybodaeth pennawd yn y weddalen
  3. Cliciwch ar y dde a dewiswch " Copy " o'r ddewislen sy'n ymddangos
  4. Cliciwch ar " View Message ".
  5. Dewiswch " To forward your message "
  6. Cliciwch ar y chwith yn y ffenestr testun, a sicrhewch bod y cyrchwr ar frig y testun yn y ffenestr honno
  7. Cliciwch ar y dde a dewiswch " Paste " o'r ddewislen sy'n ymddangos
  8. Yn y maes " To " rhowch y cyfeiriad ebost yr ydych am anfon yr ebost ymlaen ato
  9. Cliciwch " send to mail the complete message ". Bydd yn awr yn cynnwys y penawdau llawn

[ brig y dudalen ]


Outlook 2010

  1. Cliciwch ddwywaith ar y neges i’w hagor
  2. Ar y tab Message ceir grŵp o eiconau o dan y pennawd Tags .
  3. Cliciwch ar y botwm Dialog Box Launcher i gael Message Options
    Accessing message options in Outlook 2010
  4. Bydd y penynnau’n ymddangos yn y blwch Internet headers
  5. Cliciwch fotwm de’r llygoden yn yr ardal Internet Headers i ddangos y ddewislen olygu
  6. Cliciwch ar Select all i amlygu’r wybodaeth, ac yna cliciwch fotwm de’r llygoden eto a dewiswch Copy
  7. Cliciwch ar close i ddychwelyd i’ch neges
  8. Cliciwch ar Forward a bydd ffenestr newydd yn ymddangos
  9. Cliciwch fotwm de’r llygoden yn ardal y neges ar frig y neges a gludwch y pennyn i’r neges cyn ei hanfon ymlaen.

[ brig y dudalen ]


Outlook 2007

  1. Cliciwch ddwywaith ar y neges i’w hagor
  2. Ar y tab Message ceir grŵp o eiconau o dan y pennawd Option .
  3. Cliciwch ar y botwm Dialog Box Launcher i gael Message Options
    Delwedd o ddewis penawdau llawn yn Outlook
  4. Bydd y penynnau’n ymddangos yn y blwch Internet headers
  5. Cliciwch fotwm de’r llygoden yn yr ardal Internet Headers i ddangos y ddewislen olygu
  6. Cliciwch ar Select all i amlygu’r wybodaeth, ac yna cliciwch fotwm de’r llygoden eto a dewiswch Copy
  7. Cliciwch ar close i ddychwelyd i’ch neges
  8. Cliciwch ar Forward a bydd ffenestr newydd yn ymddangos
  9. Cliciwch fotwm de’r llygoden yn ardal y neges ar frig y neges a gludwch y pennyn i’r neges cyn ei hanfon ymlaen.

[ brig y dudalen ]


Outlook 2003

  1. Cliciwch ddwywaith ar y neges i’w hagor
  2. Cliciwch ar y dewis View ar y bar dewislenni
  3. Dewiswch Options o’r ddewislen
  4. Cliciwch fotwm de’r llygoden yn yr ardal Internet Headers i ddangos y ddewislen olygu
  5. Cliciwch ar Select all i amlygu’r wybodaeth, ac yna cliciwch fotwm de’r llygoden eto a dewiswch Copy
  6. Cliciwch ar close i ddychwelyd i’ch neges
  7. Cliciwch ar Forward a bydd ffenestr newydd yn ymddangos
  8. Cliciwch fotwm de’r llygoden yn ardal y neges ar frig y neges a gludwch y pennyn i’r neges cyn ei hanfon ymlaen.

[ brig y dudalen ]


Outlook Express / Windows Mail

  1. Amlygwch y neges sydd â’r penynnau yr hoffech eu hanfon ymlaen, trwy glicio botwm de’r llygoden ar y neges yn ffenestr olwg y ffolder
  2. Yn y ddewislen sy’n ymddangos that appears, cliciwch ar Properties
  3. Ar frig y dudalen bresennol, dewiswch y tab Details gyda botwm chwith y llygoden
  4. Cliciwch fotwm de’r llygoden yn unrhyw le yn y ffenestr sydd bellach ar agor
  5. Yn y ddewislen sy’n ymddangos, cliciwch ar Select All
  6. Cliciwch fotwm de’r llygoden eto, fel yng ngham 4
  7. Yn y ddewislen sy’n ymddangos, cliciwch ar Copy
  8. Cliciwch ar y botwm cancel ar waelod y ffenestr
  9. Cliciwch ar y botwm Forward button
  10. Llenwch y blychau fel y byddech mewn e-bost arferol, gan gyfeirio’r e-bost at y derbynnydd dan sylw
  11. Cliciwch ar frig corff y neges
  12. Cliciwch ar y ddewislen Edit ar frig y ffenestr
  13. Yn y ddewislen sy’n ymddangos, cliciwch ar Paste
  14. Rhowch unrhyw destun arall yng nghorff y neges fel rheol ac yna anfonwch y neges

[ brig y dudalen ]


Apple Mail

  1. Cliciwch ddwywaith ar y neges yr hoffech ei hanfon ymlaen
  2. Dewiswch View o’r bar dewislenni
  3. Dewiswch Message a Long Headers
  4. Cliciwch ar y botwm Forward
  5. Anfonwch y neges fel arfer

[ brig y dudalen ]


Montage of Information Services related images