Logo Prifysgol Cymru, Aberystwyth Logo'r Gwasanaethau Gwybodaeth Ymlaen i'r prif gynnwys
 
Cynhaliwyd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth diweddarwyd ar

Sut alla i ychwanegu fy hun fel defnyddiwr at fy nghyfrifiadur?


Am resymau diogelwch dylai pob defnyddiwr fewngofnodi ar gyfrifiadur gyda’i enw defnyddiwr a’i gyfrinair ei hun. NI ddylid rhannu yr enw defnyddiwr na’r cyfrinair gyda unrhyw un arall.

Os ydych yn cysylltu eich cyfrifiadur i rwydwaith Prifysgol Aberystwyth argymhellir eich bod yn defnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair e-bost Prifysgol Aberystwyth gan y bydd hyn yn rhoi mynediad i adnoddau rhwydweithiol.

Noder : Mae’n bwysig eich bod yn cofio newid cyfrinair eich cyfrifiadur pan yn newid cyfrinair eich ebost Prifysgol Aberystwyth

Mae’r cyfarwyddiadau’n amrywio gan ddibynnu ar ba system gweithredu sydd gennych:


Windows XP

Noder: os ydych yn ychwanegu rhywun arall fel defnyddiwr ar y cyfrifiadur yna dylech roi cyfrinair dros dro iddynt fel y gallant newid eu cyfrinair e-bost unwaith y byddant wedi mewngofnodi ar y cyfrifiadur

  • Mewngofnodwch gydag enw defnyddiwr a chyfrinair gweinyddwr
  • Ewch i Start , yna i Control Panel
  • Cliciwch User Accounts . Bydd bocs dialog yn ymddangos
  • Cliciwch Create Account. Bydd bocs dialog arall yn ymddangos
  • Teipiwch enw defnyddiwr y person yr hoffech ei ychwanegu i'r peiriant
  • Cliciwch Next
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis Limited fel y math o ddefnyddiwr. Os na wnewch, bydd gan y defnyddiwr newydd fynediad llawn i’r holl ffeiliau sydd ar y cyfrifadur hwnnw.
  • Cliciwch ar Finish a bydd y cyfrif wedi ei greu

Nodwch: wedi i’r defnyddiwr fewngofnodi am y tro cyntaf rhaid iddo/i ddychwelyd at Control Panel, User Accounts a gosod cyfrinair ar gyfer defnyddio’r peiriant.

[ brig y dudalen ]


Windows Vista

Noder: os ydych yn ychwanegu rhywun arall fel defnyddiwr ar y cyfrifiadur yna dylech roi cyfrinair dros dro iddynt fel y gallant newid eu cyfrinair e-bost unwaith y byddant wedi mewngofnodi ar y cyfrifiadur

  • Mewngofnodwch gyda enw defnyddiwr a chyfrinair gweinyddwr
  • Ewch i Start, yna i Control Panel
  • Cliciwch User Accounts. Bydd bocs dialog yn ymddangos
  • Cliciwch ar Manage another account. Bydd bocs dialog yn ymddangos
  • Cliciwch Create a new account. Bydd bocs arall yn ymddangos
  • Teipiwch enw defnyddiwr y person yr hoffech ei ychwanegu i’r peiriant.
  • Gwnewch yn siwr bod Standard User wedi ei ddewis fel y math o ddefnyddiwr. Os na wnewch, bydd gan y defnyddiwr newydd fynediad llawn i’r holl ffeiliau sydd ar y cyfrifiadur hwnnw.
  • Cliciwch Create Account bydd cyfrif newydd yn cael ei greu.
  • Cliciwch ar y cyfrif yr ydych newydd ei greu
  • Cliciwch Create a password i osod cyfrinair i’r cyfrif newydd
  • Cliciwch Create Password

[ brig y dudalen ]


Windows 7

Noder: os ydych yn ychwanegu rhywun arall fel defnyddiwr ar y cyfrifiadur yna dylech roi cyfrinair dros dro iddynt fel y gallant newid eu cyfrinair e-bost unwaith y byddant wedi mewngofnodi ar y cyfrifiadur

  • Mewngofnodwch gyda’r enw defnyddiwr a’r cyfrinair gweinyddwr
  • Ewch i Start, yna i Control Panel
  • Cliciwch ar Add or Remove User Accounts
  • Cliciwch ar Create a new account. Bydd blwch deialog yn ymddangos
  • Teipiwch enw defnyddiwr y person yr hoffech eu hychwanegu ar y peiriant.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis Standard User fel y math o ddefnyddiwr. Os na wnewch, bydd gan y defnyddiwr newydd fynediad llawn i’r holl ffeiliau sydd ar y cyfrifiadur hwnnw.
  • Cliciwch ar Create Account a bydd y cyfrif yn cael ei greu.
  • Cliciwch ar y cyfrif yr ydych newydd ei greu.
  • Cliciwch ar Create a password i osod cyfrinair ar gyfer y cyfrif newydd.
  • Cliciwch ar Create Password

[ brig y dudalen ]


 

 

 

 

Beth ddylwn i wneud os nad wyf yn gwybod beth yw’r cyfrinair gweinyddu?

Os nad ydych yn gwybod beth yw’r cyfrinair gweinyddu, gofynnwch i’ch Gweinyddydd Adrannol a yw’n cadw cofnod ohonynt. Os na allwch ddod o hyd i’r cyfrinair gweinyddu gallwch gofnodi’r peth fel nam gyda’r Gweithredwyr .

[ brig y dudalen ]


Montage of Information Services related images