Logo Prifysgol Cymru, Aberystwyth Logo'r Gwasanaethau Gwybodaeth Ymlaen i'r prif gynnwys
 
Cynhaliwyd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth diweddarwyd ar

Pam fod Prifysgol Aberystwyth yn mabwysiadu gwasanaeth argraffu aml swyddogaeth a ddarperir yn ganolog?


Mae Grŵp Gweithredol y Brifysgol wedi cytuno y dylai pob adran ddechrau mabwysiadu gwasanaeth argraffu amlswyddogaeth wedi’i ddarparu’n ganolog er mwyn lleihau costau cyffredinol argraffu a chopďo yn y Brifysgol.

Beth sy’n digwydd?  

Bydd contract Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol gyda Konica Minolta yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2012. Mae proses nawr wedi dechrau i ailbwrcasu contract am argraffydd amlswyddogaeth (MFP) ar gyfer y Brifysgol o 1 Ionawr 2013 ymlaen, a fydd yn cynnwys argraffu, copďo a sganio. Bydd y contract hwn yn cynnwys:

  • Argraffyddion amlswyddogaeth “Cyhoeddus” a ddefnyddir yn bennaf gan fyfyrwyr (mewn llyfrgelloedd a labordai cyfrifiadurol)

  • Argraffyddion “Adrannol” – wedi’u lleoli mewn adeiladau adrannol

  • Argraffyddion graddfa fawr “Ystafelloedd Argraffu” a redir gan yr adran Dylunio ac Argraffu

Bydd y gwasanaeth argraffu canolog hwn yn cymryd lle’r rhan fwyaf o argraffyddion desg ledled y Brifysgol a rhai argraffyddion amlswyddogaeth llai mewn adrannau. Cyflwynir y gwasanaeth yn raddol ledled yr adrannau rhwng 2013-2015. Tanategir y prosiect hwn gan broses gaffael a fydd yn cydymffurfio â gofynion y gyfraith.

Pam fod Prifysgol Aberystwyth yn mabwysiadu Gwasanaeth Argraffu Amlswyddogaeth Canolog?

  • Bydd yn cynnig gwasanaeth mwy dibynadwy ac o ansawdd uwch, sydd yn gyson ac yn gynaliadwy, yn enwedig gan mai un cwmni fydd yn darparu cymorth, yn hytrach na sawl un.

  • Bydd yn cynnig gwasanaeth hyblyg a diogel, a fydd yn galluogi pobl i gyrraedd at waith argraffu o unrhyw argraffydd, tra’n sicrhau bod yr holl bapurau sy’n cael eu hargraffu yn gwbl ddiogel (dim ond y sawl sy’n gyfrifol am waith argraffu all gyrraedd ato – drwy ddefnyddio technoleg cerdyn allwedd neu rif adnabod personol [PIN]).

  • Yn ogystal, bydd yn cynnig mwy o ddewis o ran gwasanaethau nag argraffyddion llai, gan gynnwys argraffu, (lliw ac A3), llungopďo, sganio (gan gynnwys sganio ar gyfer negeseuon e-bost) ac ystod o ddewisiadau ansawdd.

  • Mae amcangyfrifon o Brifysgolion eraill yn dangos manteision amgylcheddol sylweddol o ran defnyddio llai o bapur, trydan a nwyddau traul eraill. Yn gyffredinol, disgwylir gweld tua 50% o leihad yn y CO2 a gynhyrchir o ganlyniad i weithgarwch argraffu.

  • Eto, mae amcangyfrifon o sefydliadau cyffelyb yn y sector Addysg Uwch yn amcangyfrif arbediad i’r sefydliad o tua 25-35% ar gostau argraffu, a allai fod yn gannoedd o filoedd y flwyddyn yn Aberystwyth, gan arwain hefyd at gostau argraffu is i adrannau.  

Beth yw goblygiadau hyn i fy adran?

  • Dylai adrannau osgoi buddsoddi’n sylweddol mewn offer argraffu a llungopďo lle bo modd, tan i’r contract newydd fod yn weithredol.

  • Dylai adrannau sy’n ystyried prynu offer argraffu neu lungopďo gysylltu â ni yn is-printing-proc@aber.ac.uk i drafod eu gofynion.

  • Dylid osgoi prynu argraffyddion desg os oes modd – gan y bydd rhain yn cael eu gwaredu fel rhan o’r drefn newydd. Dylid yn gyntaf edrych ar y posibilrwydd o ailddefnyddio a rhannu argraffyddion sydd eisoes yn bodoli.

  • Gofynnwn i adrannau sydd ag argraffwyr sy’n gweithio, ond nad oes eu heisiau bellach, i drefnu iddynt fod ar gael i eraill ledled y Brifysgol. Bydd yr argraffyddion hyn yn cael eu defnyddio yn y cyfnod cyn gweithredu’r contract canolog. Os oes gennych unrhyw argraffyddion sydd ddim yn cael eu defnyddio, cysylltwch â ni yn is-printing-proc@aber.ac.uk .

  • Mewn achosion lle nad oes gan adrannau ddewis ond prynu argraffydd amlswyddogaeth, dylid sicrhau nad yw hyd y contract yn fwy na 3 mlynedd. Dylid trefnu pryniadau o’r fath drwy’r Swyddfa Bwrcasu. Gweler http://www.aber.ac.uk/cy/finance-office/procurement/ ar ôl ystyried y dewisiadau uchod.

[ top of page ]


Montage of Information Services related images