Mae’n bwysig eich bod yn gwneud copïau wrth gefn o’ch ffeiliau yn rheolaidd ac yn gwneud yn siŵr bod gennych chi bob amser fwy nag un copi o bob ffeil, i gyd wedi’u cadw ar gyfryngau gwahanol. (
Pam hynny?
)
I wneud copïau wrth gefn o ffeiliau yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw eu
copïo
i gyfrwng gwahanol. (
Sut mae gwneud hynny?
)
Bydd pa gyfrwng yr ydych yn ei ddewis yn amodol ar ba galedwedd sydd ar gael i chi; faint o ddata sy’n rhaid i chi wneud copi wrth gefn ohono a pha mor aml y mae’n rhaid i chi wneud copïau wrth gefn neu ddefnyddio eich copïau wrth gefn. Bydd y dechneg ar gyfer creu copi wrth gefn hefyd yn amodol ar y cyfrwng a ddefnyddir.
Dyma rai o’r gwahanol gyfryngau sydd ar gael:
-
Storfa Ffeiliau’r Brifysgol (Gyriant M:)
Mae’n dal 2 GB o ddata; gellir cael mynediad ati o unrhyw gyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd ac mae copïau’n cael eu rhoi ar dâp yn rheolaidd gan Gwasanaethau Gwybodaeth. (
Ceir rhagor o wybodaeth yma
).
-
Gyriant USB
Mae’r lle sydd ar gael ar yr USB yn amrywio – y mwyaf o ddata mae’n ei ddal y mwyaf y bydd yn ei gostio. Gellir defnyddio co’ bach ar unrhyw gyfrifiadur sydd â phorth USB. (
Ceir rhagor o wybodaeth yma
). Gellir prynu gyriannau co’ bach gan y
Gwasanaethau Gwybodaeth
-
CD RW/ROM
Mae’n dal 700MB o ddata. Bydd yn rhaid i chi gael mynediad at yriant CD-RW. Mae’r rhain ar gael ar yr holl gyfrifiaduron yn yr
ystafelloedd cyfrifiaduron
. (
Ceir rhagor o wybodaeth yma
). Gellir prynu CDs gan y
Gwasanaethau Gwybodaeth
.
-
DVD R/RW
Mae’r lle ar y ddisg yn amrywio rhwng 2.40 GB a 15.9 GB. Bydd yn rhaid i chi gael mynediad at yriant DVD RW. Mae’r rhain ar gael ar yr holl gyfrifiaduron yn yr
ystafelloedd cyfrifiaduron.
. Gellir prynu DVDs gan y
Gwasanaethau Gwybodaeth
.
-
Gyriant caled allanol
Mae’r lle ar y ddisg yn amrywio (fel rheol gan ddibynnu ar faint yr ydych yn ei wario). Gellir prynu gyriannau caled allanol gan y
Gwasanaethau Gwybodaeth
.
|