Logo Prifysgol Cymru, Aberystwyth Logo'r Gwasanaethau Gwybodaeth Ymlaen i'r prif gynnwys
 
Cynhaliwyd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth diweddarwyd ar

Sut mae dargyfeirio fy negeseuon e-bost?


Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y cewch ddargyfeirio eich negeseuon e-bost i gyfrif e-bost allanol (e.e. hotmail):

Os nad ydych yn dod o dan unrhyw un o’r categorïau hyn, mae’n rhaid i chi ddefnyddio Webmail i edrych ar eich negeseuon e-bost pan fyddwch oddi ar y campws.

[ brig y dudalen ]


Defnyddwyr sydd ar fin graddio neu sydd wedi graddio’n ddiweddar

  • Mae’n rhaid i chi osod cyfeiriad e-bost alumni.
  • Mae hyn yn rhoi cyfeiriad e-bost alumni i chi ond nid cyfrif e-bost go iawn. Mae’r cyfeiriad e-bost alumni yn dargyfeirio negeseuon e-bost i ba bynnag gyfrif e-bost yr ydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd.
  • Bydd eich e-bost myfyriwr yn cael ei ddargyfeirio i’r cyfeiriad hwn am un flwyddyn.
  • Gallwch osod eich cyfeiriad e-bost alumni unrhyw bryd ar ôl gwyliau’r Pasg yn y flwyddyn yr ydych yn graddio ynddi ond ni fydd yn gweithio nes bod eich cyfrif cyfrifiadurol yn cloi.
  • Gallwch greu cyfeiriad alumni drwy’r wefan Alumni .

[ brig y dudalen ]


Myfyrwyr sydd wedi Tynnu Allan Dros Dro

  • Rhaid i chi fynd i Ddesg Gymorth, gan ddod â rhyw fath o lun i brofi’ch hunaniaeth, a byddwn yn trefnu i’ch negeseuon e-bost gael eu dargyfeirio.
  • Os nad ydych bellach ar y campws mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Gwasanaethau Gwybodaeth( Sut mae gwneud hynny? ) a gofyn am Ffurflen Awdurdodi Dargyfeirio Negeseuon E-bost. Bydd y ffurflen yn cael ei hanfon atoch ac, ar ôl i chi ei llenwi a’i dychwelyd, byddwn yn trefnu i’ch negeseuon e-bost gael eu dargyfeirio.

[ brig y dudalen ]


Staff

Bydd y modd yr ydych yn dargyfeirio negeseuon e-bost yn amodol ar ba un ai ydych chi’n defnyddio Exchange neu IMAP

[ brig y dudalen ]


Exchange

Mae’r cyfarwyddiadau’n amrywio gan ddibynnu ar ba driniwr e-bost yr ydych yn ei ddefnyddio:

Outlook Web Access

  • Mae’n rhaid i chi ddefnyddio Internet Explorer
  • Ewch i https://exchange.aber.ac.uk a mewngofnodwch i’ch cyfrif e-bost
  • Cliciwch ar Options ar frig y dudalen ar yr ochr dde
    Options link in OWA
  • Cliciwch ar Rules yn y ddewislen ar y chwith
    Rules option
  • Nesaf, cliciwch ar New Rule , a dewiswch Create a new rule for arriving messages
    Creating a new rule in OWA
  • Yn y deialog sy’n ymddangos:
    • O dan After the message arrives , cliciwch ar If my name is... a dewiswch In the To or Cc box o’r dewisiadau sy’n ymddangos
    • Yna o dan Do the following , cliciwch ar Forward or redirect a dewiswch Forward the message to people or redistribution lists o’r dewisiadau sydd ar gael
    • Nesaf, o dan Rule Description , cliciwch ar people or distribution lists
    • O dan Message recipients , teipiwch y cyfeiriad dargyfeirio a chliciwch ar OK
    • Rhowch enw i’r rheol, ac yna cliciwch ar Save
  • Pan fyddwch eisiau rhoi’r rheol ar waith, gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio’r blwch ticio
  • I dynnu’r rheol, gallwch naill ai dynnu’r tic oddi ar y rheol, neu eu hamlygu a chlicio ar Delete

[ brig y dudalen ]


Outlook 2007

  • Ewch i’r ddewislen Tools
  • Dewiswch Out of office assistant...
    Out of office assistant option in Outlook 2007
  • Cliciwch ar Rules
  • Cliciwch ar Add Rule...
  • Os ydych wedi gosod rheol o’r blaen ar gyfer dargyfeirio negeseuon e-bost yn Outlook,
    • Ticiwch y blwch wrth ymyl y rheol
    • Cliciwch ar OK i gau’r Out of Office Assistant
  • Fel arall cliciwch ar Add Rule...
    Forwarding settings
    • Ticiwch y blwch Sent directly to me
    • Ticiwch y blwch Copied (Cc) to me
    • Ticiwch y blwch Forward
    • Yn y blwch To: teipiwch y cyfeiriad e-bost yr hoffech ddargyfeirio eich negeseuon e-bost iddo
    • o Cliciwch ar OK i gau’r ffenestr Edit Rule window
  • Cliciwch ar OK i gau’r Out of Office Assistant
  • I dynnu’r ddyfais dargyfeirio yn Outlook 2007: :
    • Ewch i’r ddewislen Tools
    • Dewiswch Out of office assistant...
    • Cliciwch ar y botwm Rules a thynnwch y tic o’r blwch wrth ymyl y rheol
    • Cliciwch ar OK

    [ brig y dudalen ]


    Outlook 2003

    • Ewch i’r ddewislen Tools
    • Dewiswch Out of office assistant...
      Out of office assistant option in Outlook 2007
    • Cliciwch ar y botwm I am currently out of the office
      • Os ydych wedi gosod rheol o’r blaen ar gyfer dargyfeirio negeseuon e-bost yn Outlook,
        • Ticiwch y blwch wrth ymyl y rheol
        • Cliciwch ar OK i gau’r Out of Office Assistant
      • Fel arall, cliciwch ar Add Rule...
        Forwarding settings
        • Ticiwch y blwch Sent directly to me
        • Ticiwch y blwch Copied (Cc) to me
        • Ticiwch y blwch Forward
        • Yn y blwch To: teipiwch y cyfeiriad e-bost yr hoffech ddargyfeirio eich negeseuon e-bost iddo
        • Cliciwch ar OK i gau’r ffenestr Edit Rule window
    • Cliciwch ar OK i gau’r Out of Office Assistant
  • I dynnu’r ddyfais dargyfeirio yn Outlook 2003:
    • Ewch i’r ddewislen Tools
    • Dewiswch Out of office assistant...
    • Cliciwch ar y botwm Rules a thynnwch y tic blwch wrth ymyl y rheol
    • Cliciwch ar OK

    [ brig y dudalen ]


    Cyfarwyddiadau ar gyfer dargyfeirio negeseuon e-bost os yw’r triniwr e-bost yn defnyddio POP neu IMAP

    I ddargyfeirio eich negeseuon e-bost:

    • Ewch i’r weddalen dargyfeirio negeseuon e-bost
      Noder: diben y diofyniad yw edrych ar gyflwr presennol eich cyfrif o ran dargyfeirio negeseuon e-bost
    • Teipiwch eich enw mewngofnodi a'ch cyfrinair y blychau perthnasol
    • Cliciwch ar y botwm Select to implement mail forwarding
    • Teipiwch y cyfeiriad yr hoffech ddargyfeirio eich negeseuon e-bost iddo yn y blwch Forwarding Address:
    • Os hoffech gadw copïau o’r negeseuon yr ydych yn eu dargyfeirio yn PA er mwyn i chi edrych arnynt pan fyddwch yn dychwelyd, ticiwch y blwch o’r enw Copies to be held at AU
    • Cliciwch ar y botwm Click Here to Submit
    I dynnu’r ddyfais dargyfeirio negeseuon e-bost
    • Ewch i’r weddalen dargyfeirio negeseuon e-bost
    • Teipiwch eich enw mewngofnodi a’ch cyfrinair yn y blychau perthnasol
    • Cliciwch ar y botwm Select to remove your mail forwarding
    • Cliciwch ar y botwm Click Here to Submit

    [ brig y dudalen ]


    Aelodau o staff sydd wedi ymddeol neu wedi gadael yn ddiweddar

    Mae modd i aelodau o staff sy’n gorffen gweithio yn y Brifysgol ddargyfeirio eu negeseuon e-bost i gyfeiriad arall am flwyddyn ar ôl iddynt adael. Yn ddelfrydol dylech osod hwn eich hun gan ddefnyddio’r dulliau a amlinellir uchod ar eich diwrnod olaf yn y gwaith. Os nad oedd hyn yn bosibl a bod eich cyfrif bellach wedi cloi cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth a gallant hwy drefnu i’ch negeseuon e-bost gael eu dargyfeirio.

    [ brig y dudalen ]


    Montage of Information Services related images