|
|
Beth yw twyllo (spoofing)? Os ydych yn cael negeseuon adlam o e-byst NAD ydych wedi’u hanfon mae’n debygol eich bod wedi cael eich 'twyllo’ Mae twyllo ar e-bost yn digwydd pan fo’r anfonwr yn newid yr enw mewn e-bost sy’n cael ei anfon er mwyn iddo edrych fel petai’r e-bost wedi dod o rywle, neu gan rywun arall. Mae’r arfer hwn yn cael ei ddefnyddio’n aml gan sbamwyr i rwystro pobl rhag darganfod pwy ydynt. Mae hefyd yn golygu, pan fydd y neges sbam yn cael ei gwrthod gan weinydd post y derbynnydd, y bydd y neges adlam yn mynd i’r sawl a nodwyd yn yr e-bost a anfonwyd yn hytrach nag i’r sbamwyr eu hunain. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i osgoi hyn. Os ydych chi wedi cael eich twyllo, dilëwch y negeseuon adlam. Nid yw’n golygu bod rhywun wedi cael mynediad at eich cyfrif e-bost. Mae’n debyg y gwelwch eich bod yn derbyn nifer ohonynt am gyfnod byr ac yna byddant yn stopio. Sicrhewch eich bod wedi gwneud popeth i sicrhau bod eich cyfrifiadur yn ddiogel ( Sut mae gwneud hynny? )
|
|
|