Gellir prynu credyd argraffu drwy ddefnyddio:
Gallwch ddefnyddio arian parod i brynu credyd argraffu neu gopïo o’r mannau canlynol:
-
Llyfrgell Hugh Owen – gan ddefnyddio’r llwythwr gwerth yn y Ganolfan Gyfryngau ar Lawr D
-
Adeilad Llandinam – gan ddefnyddio’r llwythwr gwerth y tu allan i Ystafell Weithfan B23
-
Llyfrgell Thomas Parry – gan ddefnyddio’r llwythwr gwerth yn yr ardal gyfrifiadurol
-
Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol – os gwelwch yn dda ymholwch wrth y ddesg ymholiadau
-
Llyfrgell yr Hen Goleg – gan ddefnyddio’r llwythwr gwerth
I ychwanegu credyd trwy ddefnyddio’r llwythwr gwerth:
-
Rhowch eich cerdyn Aber yn y darllenydd cardiau fel bod y llun ar yr ochr chwith
-
Rhowch y darnau arian i mewn (darnau 10c, 20c, 50c, £1 a £2 yn unig) a’r papurau (£5 neu £10 yn unig) am gyfanswm y credyd yr hoffech chi. (Mae peiriannau newid ar gael yn llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry)
-
Wedi i chi roi cyfanswm y credyd yr hoffech chi pwyswch y botwm
finish
-
Bydd y credyd yn cael ei ychwanegu ar unwaith i’ch cyfrif
[
brig y dudalen
]
Gallwch chi hefyd brynu credyd
ar-lein
drwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio cyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r Rhyngrwyd.
[
brig y dudalen
]
|