Os nad yw’r cysylltiad yn eich neuadd yn gweithio sicrhewch:
-
eich bod wedi cychwyn eich cyfrif e-bost. Os nad ydych, mae’n rhaid i chi wneud hyn gyntaf (
Sut mae gwneud hynny?
)
-
eich bod yn defnyddio’r cyfrinair iawn (
Ble alla i wirio hynny?
)
-
bod wedi aros o leiaf awr ers cofrestru eich cyfeiriad MAC – gall gymryd cymaint â hyn o amser i’ch cyfeiriad fod yn weithredol ar y rhwydwaith
-
eich bod wedi cofrestru’r cyfeiriad MAC iawn. Gallwch gamdeipio weithiau
neu
os oes gennych chi gerdyn rhwydwaith a cherdyn diwifr yn eich cyfrifiadur bydd gennych gyfeiriad MAC ar gyfer y ddau. Sicrhewch fod y cyfeiriad MAC gwifrog wedi’i gofrestru (
Sut mae gwneud hynny?
)
-
eich bod yn rhoi eich enw defnyddiwr fel eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Aberystwyth llawn e.g. abc1@aber.ac.uk
-
bod eich gosodiadau yn gywir (
Sut mae gwneud hynny?
)
-
bod eich cyfrifiadur wedi’i osod i ddefnyddio DHCP (
Sut mae gwneud hynny?
)
-
bod eich gosodiadau webcache yn gywir (
Sut mae gwneud hynny?
)
Os yw’r holl bethau hyn yn gywir gallwch roi cynnig ar y canlynol:
-
Analluogi a galluogi eich cysylltiad LAN
-
Ewch i
Start
a
Run
; teipiwch
cmd
a chliciwch ar
OK
, yna teipiwch
ipconfig /release
Pan fydd eich gosodiadau wedi cael eu rhyddhau teipiwch
ipconfig /renew
-
Stopio ac ailddechrau’r Wireless Zero Configuration (
Sut mae gwneud hynny?
)
-
Symud unrhyw feddalwedd gwrth-firws sydd wedi dirwyn i ben oddi ar eich cyfrifiadur.
-
Ailgychwyn eich cyfrifiadur
-
Benthycwch gebl gan rywun sydd â chysylltiad sy’n gweithio i weld a yw eich cebl chi wedi torri. Os ydyw, bydd rhaid i chi brynu un newydd (
Ble alla i wneud hynny?
)
-
Ewch â’ch cyfrifiadur i ystafell rhywun arall yn eich fflat sydd â chysylltiad sy’n gweithio i weld a yw’n gweithio yn eu hystafell hwy (gyda’ch cebl chi). Os ydyw, dylech roi gwybod nad yw’r soced yn eich ystafell yn gweithio (
Sut mae gwneud hynny?)
)
Dylech hefyd wirio:
-
eich bod wedi ffurfweddu unrhyw waliau tân personol, er enghraifft Norton neu McAfee, i’w defnyddio gyda gweinyddwyr y Brifysgol (
Sut mae gwneud hynny?
)
-
nad oes unrhyw firysau, meddalwedd hacio neu ysbïwedd ar eich cyfrifiadur (
Sut mae gwneud hynny?
)
Os ydych chi’n dal i gael problemau cysylltu, cysylltwch â stunet
stunet@aber.ac.uk
neu dewch â’ch gliniadur i’r Ddesg Gymorth Gyfrifiadurol (
Ble maen nhw?
)
[
brig y dudalen
]
|